Taliesin News I Geisio Am Beilot Newyddion Teledu I Gymru
Mae 'Taliesin News' heddiw'n cyhoeddi eu bwriad i geisio am brosiect peilot ' Consortia Newyddion wedi ei Ariannu'n Annibnnol' yng Nghymru.
Dan arweiniad Clive Jones CBE mae'r Cwmni newydd yn cynnwys cyfuniad o dim newyddion presennol ITV Wales, darparwr newyddion blaengar ITN a'r cyhoeddwyr papurau newydd ar draws Cymru gan gynnwys Northcliffe Media, Newsquest Media Group a Tindle Newspapers ynghyd a'r cwmni cynhyrchu teledu Cymreig Boomerang gyda chefnogaeth Ysgol Newyddiaduraeth y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.
Mae'r consortiwm yn ymgorffori dros 25 o teitlau papurau newyddion ar draws y wlad gan gynnwys y South Wales Evening Post, South Wales Argus, Cambrian News, Y Cymro, Llanelli Star, Swansea Herald, Carmarthen Journal, Abergavenny Chronicle, y Western Telegraph, y Penarth Times, Milford & West Wales Mercury, y Fishguard County Echo, Tenby Observer, Brecon & Radnor Express, Monmouth Beacon a'r Barry & District News ynghyd a phortfolio eang o wefannau lleol.
Mae Clive Jones yn Gyfarwyddwr Anweithredol o Fwrdd Cyfarwyddwyr S4C, Cadeirydd GMTV, Cadeirydd Skillset ac Athro Ymweld Anrhydeddus yn Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd. Mae'n dod a phrofiad eang o gasglu newyddion, cynhyrchu a thechnoleg yn dilyn gyrfa hir mewn ac yn rheoli ystafelloedd newyddion. Mae e'n gyn Brif Weithredwr Newyddion ITV a'r Rhanbarthau a bu'n gyfrifol am lansiad LNN a fu'n darparu gwasanaeth newyddion saith-diwrnod lleol cyntaf i Lundain.
Mae'r cais yn dod a chefnogaeth Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Wales ynghyd a'i dim profiadol sy'n cynhyrchu'r newyddion cyfredol i Gymru yn ddyddiol.
Bydd Taliesin News yn torri tir newydd wrth gynnig gwasanaeth newyddion gwreiddiol i Gymru fydd yn dwyshau dyfnder y darpariaeth newyddion o faterion Cymreig a sicrhau mynediad i'r cynnwys ar draws holl blatfformau cyfryngol teledu, print ac arlein.
Fe fydd yn ymgorffori cynnwys newyddion o sawl ffynhonell ar draws y wlad fydd yn rhoi agwedd / perspective fresh ar holl straeon newyddion sylweddol pernasol i Gymru gyda darpariaeth arbennig o weithgaredd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, chwaraeon Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Sioe Frenhinol ynghyd a gwyliau a digwyddiadau blaengar eraill fydd yn dathlu Cymru a'i phobl.
Dywedodd Clive Jones CBE, Cadeirydd Taliesin News 'Daw Taliesin News a thim a phartneriad heb eu hail at ei gilydd i greu gwasanaeth newyddion eithriadol i Gymru. Wrth gyfuno a meithrin y rhwydwaith casglu newyddion a chynhyrchu cynnwys byddwn yn sicrhau y bydd gan Gymru wasanaeth newyddion cystal a'r hyn a geir yn unrhywfan ar draws y byd heddiw'.
Wrth gynrhychioli'r tim presennol ychwanegodd Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni 'Mae'n gyffrous i fod yn chwarae rol gannolog wrth siapio dyfodol gwasanaeth newyddion i Gymru a gweithio gyda chyfuniad o bartneriaid fydd yn ein galluogi i wella ar ddyfnder y gohebu ar gyfer cynulleidfaoedd ar draws pob platform cyfryngol.'
Ychwanegodd John Hardie, Prif Weithredwr ITN 'Rydym yn hynod falch i fod yn ymuno a Clive, y tim newyddion presennol a chriw o bartneriaid allweddol eraill yn y cais hwn. Edrychwn ymlaen i gyfrannu creadigrwydd ac arbenigrwydd ITN o gynhyrchu newyddion aml-blatfform mewn cyfnod newydd i gyfrannu gynllunio a chyfleu gwasanaeth arbennig i gynulleidfaoedd newyddion Cymru'.
Dywedodd Michael Pelosi, Rheolwr Gyfarwyddwr Northcliffe Media 'Fel cyhoeddwyr nifer o bapurau newydd a gwefannau blaenllaw yng Nghymru rydym wedi ein cyffroi ynglun a'r cyfle i adnewyddu gwasanaethau newyddion ein gwlad gan dyrchu'n ddyfnach i ddarparu cynnwys cyfoethocach i bobl Cymru.'
Dywedodd Gavin Steacy, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymru o Grwp Newsquest Media: 'Mae hwn yn gyfle gwych i gyfuno galluoedd prif gaslwyr newyddion Cymru i gynhyrchu gwasanaeth gwybodaeth gyfansawdd ar gyfer pobl Cymru'.
Dywedodd Brian Doel, Rheolwr Gyfarwyddwr Grwp Tindle 'Gyda rhwydwaith cryf o bapurau newydd led led Cymru edrychwn ymlaen at gydweithio a'n partneriaid gan ddefnyddio'n adnoddau papurau newydd ardderchog a'n gwefannau rhagorol i gyfoethogi'r gwasanaeth newyddion i Gymru.
Dywedodd Huw Eirug Davies, Prif Weithredwr grwp Boomerang Plus 'Mae'r tim deimamig a chreadigol yma yn Boomerang Plus yn falch o fod yn ymuno casgliad eang o dalent sy'n rhannu'r weledigaeth o ddarparu gwasanaeth newyddion gwahanol, poblogaidd a pherthnasol i Gymru.'
